Joshua 11

Yr Ymgyrch i'r Gogledd

Taro Jabin a brenhinoedd eraill y Gogledd

1Pan glywodd Jabin, brenin Chatsor, beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal honno – y brenin Iobab yn Madon, brenin Shimron, brenin Achsaff, 2a'r brenhinoedd oedd yn teyrnasu yn y bryniau i'r gogledd, yn Nyffryn Iorddonen
11:2 Nyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”.
i'r de o Lyn Galilea
11:2 Lyn Galilea Hebraeg, “Llyn Cinnereth”, enw cynharach ar y llyn.
, ar yr iseldir ac ar arfordir Dor yn y gorllewin.
3Daeth Canaaneaid o gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, a Jebwsiaid o'r bryniau, a Hefiaid o'r ardal wrth droed Mynydd Hermon yn Mitspa. 4Daeth y brenhinoedd yma i gyd allan gyda'i byddinoedd – roedd gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Ac roedd ganddyn nhw lot fawr o geffylau a cherbydau rhyfel. 5Daethon nhw i gyd at ei gilydd wrth Ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel. 6Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Erbyn tua'r adeg yma yfory bydda i wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gorwedd yn farw o flaen Israel. Gwna eu ceffylau yn gloff, a llosga eu cerbydau rhyfel.”

7Felly dyma Josua a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw yn ddi-rybudd wrth Ddyfroedd Merom. 8Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r fuddugoliaeth i fyddin Israel. Ac aeth byddin Israel ar eu holau yr holl ffordd i Sidon a Misreffoth-maim, a hefyd Dyffryn Mitspe yn y dwyrain, a'i taro nhw i lawr. Wnaethon nhw adael neb ar ôl yn fyw. 9Wedyn dyma Josua yn gwneud y ceffylau'n gloff ac yn llosgi'r cerbydau rhyfel, yn union fel roedd yr Arglwydd wedi gorchymyn.

10Wedyn dyma Josua yn troi yn ôl a concro tref Chatsor a lladd y brenin yno. (Chatsor oedd wedi bod yn arwain y teyrnasoedd yma i gyd.) 11Dyma nhw'n lladd pawb yno – gafodd yr un enaid byw ei adael ar ôl. Yna dyma nhw'n llosgi'r dref.

12Aeth Josua yn ei flaen i goncro'r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr Arglwydd, wedi gorchymyn. 13Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi hynny oedd wedi ei hadeiladu ar garnedd. Chatsor oedd yr unig un gafodd ei llosgi. 14Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o'r trefi, a chadw'r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd – adawyd neb yn fyw.

Y tiroedd ennillodd Josua

15Roedd Moses, gwas yr Arglwydd, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr Arglwydd wedi ei orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth oedd yr Arglwydd wedi ei ddweud wrth Moses. 16Llwyddodd Josua i goncro'r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a'r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen
11:16 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”.
, a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd.
17Concrodd bobman o fynydd Halac sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn y dyffryn rhwng Mynydd Hermon a bryniau Libanus. Daliodd bob un o'u brenhinoedd, a'u lladd.

18Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn. 19Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (ar wahân i'r Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd. 20Roedd yr Arglwydd ei hun wedi eu gwneud nhw'n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw'n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses.

21Yn ystod y cyfnod yma, llwyddodd Josua a'i fyddin i ddinistrio disgynyddion Anac hefyd, oedd yn byw yn y bryniau – yn Hebron, Debir, Anab, a gweddill bryniau Jwda ac Israel. Lladdodd Josua nhw i gyd, a dinistrio eu trefi. 22Doedd neb o ddisgynyddion Anac ar ôl lle mae pobl Israel yn byw. Ond roedd rhai yn dal ar ôl yn Gasa, Gath ac Ashdod.
11:22 Gasa, Gath, ac Ashdod Trefi yn Philistia.

23Felly roedd Josua wedi concro'r wlad i gyd, fel roedd yr Arglwydd wedi addo i Moses. A dyma Josua yn rhannu'r wlad rhwng y llwythau, ac yn rhoi eu tiriogaeth arbennig i bob un.

Ac roedd heddwch yn y wlad.

Copyright information for CYM